Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 24 Chwefror 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 09.40 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r
cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Russell George Bethan Jenkins (Cadeirydd dros dro) Gwyn Price (yn lle Joyce Watson) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro
Ar ôl cael ei henwebu gan Russell George AC, etholwyd Bethan Jenkins AC yn Gadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan William Powell AC a Joyce Watson AC. Roedd y ddau yn bresennol yng nghyfarfod y Gymdeithas Seneddol Brydeinig-Wyddelig yn Nulyn. Roedd Gwyn Price AC yn bresennol ar ran Joyce Watson.
3 Trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2015 - P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth gyda Phlant yng Nghymru a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad i ofyn:
· a oes unrhyw gynnydd pellach wedi’i wneud i sefydlu corff ieuenctid cynrychiadol i olynu y Ddraig Ffynci; ac
· am wybodaeth am unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd mewn perthynas â’r materion a godwyd yn y ddeiseb.
4 Deisebau newydd
4.1 P-04-617 Stopiwch y Trosglwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i’r Sector Gwirfoddol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gofyn ei farn am sylwadau pellach y deisebydd.
5 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
5.1 P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ei sylwadau ar ohebiaeth Ms Missen;
· Cadw golwg ar y mater a gofyn i’r Gweinidog am gael gwybod am ddatblygiadau: a
· Rhoi gwybod i’r deisebydd am yr adolygiad o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed sydd i gael ei lansio ddydd Iau 26 Chwefror, i roi cyfle iddo gyflwyno barn pe bai am wneud hynny.
5.2 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion
Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, fel y cytunwyd yn
flaenorol, penderfynodd ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn ar:
· y dystiolaeth a’r wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol gan OFCOM; ac
· a yw Canolfan Iechyd y Cyhoedd Lloegr ar gyfer Ymbelydredd, Peryglon Cemegol ac Amgylcheddol yn ystyried tystiolaeth o Gymru o ran darparu cyngor i Lywodraeth Cymru.
5.3 P-04-586 Holl staff GIG Cymru i gael eu talu ar y gyfradd Cyflog Byw o £7.65 yr awr o leiaf
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd, o ystyried bod y deisebydd wedi nodi bod y mater bellach wedi cael ei ddatrys drwy drafodaethau, i gau’r ddeiseb.
5.4 P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ddwyn sylw’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y mater, i’w ystyried os caiff y Bil Iechyd y Cyhoedd arfaethedig, y disgwylir, ar hyn o bryd, iddo gael ei gyhoeddi cyn toriad yr haf, ei gyfeirio atynt ar gyfer craffu arno; ac
· Gofyn i’r Gweinidog am ei farn ar ohebiaeth bellach y deisebydd, yn enwedig ei sylwadau ar ymgysylltiad Llywodraeth yr Alban â’r gymuned rhyddhau anwedd, a’i ddealltwriaeth o’r penderfyniad i beidio â mynd ar drywydd gwahardd e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus yn yr Alban.
5.5 P-04-603 Helpu babanod sy’n cael eu geni ar ôl 22 wythnos i oroesi
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn bellach y deisebydd yn dilyn ei chyfarfod gyda swyddogion y llywodraeth a oedd i gael ei gynnal ar 18 Chwefror.
5.6 P-04-608 Ymchwiliad i’r GIG yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am lythyr y Gweinidog.
5.7 P-04-422 Ffracio
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i gael eglurhad ar swm a sylwedd sylwadau a nodwyd yn ddiweddar, yn ôl y sôn, am foratoriwm ar ffracio, nad oes sôn amdanynt yn ei lythyr at y Pwyllgor.
5.8 P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Dynnu sylw’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol at sylwadau ychwanegol y deisebwyr: a
· Chau’r ddeiseb o ystyried bod y ddwy ochr yn derbyn bod gan Gymru hanes da o ran hwsmonaeth anifeiliaid, a’i bod yn hyrwyddo safonau uchel o ran lles anifeiliaid fferm, ac nad oes tystiolaeth glir sy’n dangos bod unrhyw broblem neilltuol yng Nghymru y tu hwnt i’r angen am wyliadwriaeth barhaus.
5.9 P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn ar sylwadau’r deisebydd, yn benodol ar y pryderon a fynegwyd y gall y data a gasglwyd o dan gontract y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur fod wedi dangos canlyniadau diffygiol.
5.10 P-04-605 Achub Ffordd Goedwig Cwmcarn Rhag Cael ei Chau am Gyfnod Amhenodol neu’n Barhaol
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog ofyn i’w swyddogion a Chyfoeth Naturiol Cymru weithio gyda ‘Ffrindiau Ffordd Goedwig Cwmcarn’ wrth ddod o hyd i ateb ar gyfer dyfodol y ffordd.
5.11 P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb o gofio mai’r unig bwynt sy’n weddill yn y mater yw pwynt tri o’r ddeiseb, ac mae’r deisebwyr wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw beth pellach y maent am ei ychwanegu.
5.12 P-04-566 Adolygu’r Cod Derbyn i Ysgolion
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried na chafwyd ymateb gan y deisebydd, ac mae’r Gweinidog wedi darparu ymateb manwl i bob un o’r materion a godwyd yn y ddeiseb.
5.13 P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog cyn ystyried y ffordd orau i symud ymlaen.
5.14 P-04-556 Na i gau Cyffordd 41
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn am ymateb i’r pryderon penodol a amlinellir yng ngohebiaeth y deisebydd, gan gynnwys sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd ar 23 Chwefror.
5.15 P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:
· Hwyluso’r cyswllt rhwng y deisebwyr a swyddogion perthnasol yn CADW a Chyngor Sir Gwynedd;
· Ysgrifennu at bob Aelod yng Ngogledd Cymru yn tynnu eu sylw at y ddeiseb; a
· chau’r ddeiseb.
5.16 P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:
· Ofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a allai’r Ddeddf Teithio Byw (Cymru) 2013 ddarparu dull o fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn y ddeiseb; ac
· ysgrifennu at SUSTRANS i gael eu sylwadau.
5.17 P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o ystyried bod cytundeb wedi bod o ran gwrthrych y ddeiseb, penderfynodd gau’r ddeiseb ar y sail, os bydd y sefyllfa’n newid yn y dyfodol, y gellir cyflwyno deiseb arall.
5.18 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Ysgrifennu at Gyngor Sir Caerdydd eto i gael gwybod beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf; ac
· Gofyn i’r Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y datblygiadau.
5.19 P-04-573 Galwad ar Lywodraeth Cymru i Ymchwilio i’r System Lesddaliadau Preswyl yng Nghymru
Cytunodd y Pwyllgor ar yr ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ofyn am sylwadau gan y deisebydd cyn mynd ymlaen i gau’r ddeiseb.
5.20 P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· Roi gwybod i’r deisebydd ynghylch cyngor y Gweinidog y dylai gysylltu â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn uniongyrchol; a
· Gofyn am sylwadau gan y deisebydd cyn mynd ymlaen i gau’r ddeiseb.